Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Mehefin 2014 i’w hateb ar 10 Mehefin 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Elin Jones (Ceredigion): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1712(FM)W

 

2. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau llyfrgell ar draws Cymru? OAQ(4)1700(FM)

 

3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi eu cynnal yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â Bil Cymru?OAQ(4)1705(FM)

 

4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oed yng Nghymru?  OAQ(4)1716(FM)

 

5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd sy'n deillio o ddigwyddiadau chwaraeon mawr?  OAQ(4)1704(FM)

 

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cludiant yng Nghymru dros y deuddeg mis nesaf? OAQ(4)1703(FM)

 

7. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i sector y diwydiannau creadigol?OAQ(4)1708(FM)

 

8. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflenwi ynni yng Nghymru?OAQ(4)1713(FM)

 

9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y gwasanaethau gofal sylfaenol? OAQ(4)1711(FM)W

 

10. Byron Davies (Gorllewin De Cymru):Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o ganlyniadau diweddar y British Social Attitudes Survey yng nghyswllt rhagfarn hiliol hunan-gofnodedig yng Nghymru?  OAQ(4)1701(FM)

 

11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella’r modd y mae pynciau STEM yn cael eu haddysgu?  OAQ(4)1702(FM)

 

12. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y gwelyau gofal critigol sydd ar gael yn ysbytai Dwyrain De Cymru?OAQ(4)1709(FM)

 

13. Julie James (Gorllewin Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a fu yng nghyswllt trydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Paddington ac Abertawe?  OAQ(4)1706(FM)

 

14. Alun Ffred Jones (Arfon):Pa brosiectau cyfalaf sydd gan Lywodraeth Cymru ar y gweill i ddatblygu’r seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru? OAQ(4)1714(FM)W

 

15. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i godi lefelau ailgylchu yng Nghymru? OAQ(4)1707(FM)